GWEINIDOGION Y DU SY'N GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG

 

 

013 - Rheoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2022 [Saesneg yn unig]

Dyddiad gosod yn Senedd y DU: 19 Hydref 2022

Sifftio

Yn destun sifftio yn Senedd y DU?

Ydy

Gweithdrefn:

Offeryn statudol negyddol arfaethedig

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU

3 Tachwedd 2022

Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol)

Dim angen 

Gweithdrefn graffu

Canlyniad y broses sifftio  

Anhysbys

Gweithdrefn

Anhysbys

Dyddiad trafod gan y Cyd-bwyllgor ar Offerynnau Statudol

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Tŷ'r Cyffredin

Anhysbys

Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi

Anhysbys

Cefndir

 

Bwriedir i'r Rheoliadau hyn gael eu gwneud gan Lywodraeth y DU o dan adran 8(1)(b) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

 

Crynodeb

 

Mae'r Rheoliadau hyn yn newid y cyfeiriad at Aelod-wladwriaeth ym mhennawd Atodiad 2 i Benderfyniad Gweithredu'r Comisiwn (UE) 2017/2287 i Brydain Fawr, er cysondeb â diwygiadau a wneir gan Reoliadau Rheoli Mercwri (Diwygio) (Ymadael â’r UE) 2020.

 

Datganiad gan Lywodraeth Cymru

 

Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru ar 20 Hydref 2022 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.

Fodd bynnag, nid yw'r datganiad ysgrifenedig yn nodi effaith y mae'r Rheoliadau yn ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru (fel sy'n ofynnol gan Reol Sefydlog 30C.3(ii)).

 

Ond gall Gwasanaethau Cyfreithiol y Senedd gadarnhau nad oes effaith o'r fath.

 

Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael)

 

Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith.